33. A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o'r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.
34. O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.
35. Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a'r hwn sydd yn arogldarthu i'w dduwiau.
36. Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd.
37. Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain.
38. Ar holl bennau tai Moab, a'i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd.
39. Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o'i hamgylch.
40. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab.
41. Y dinasoedd a oresgynnir, a'r amddiffynfeydd a enillir, a chalon cedyrn Moab fydd y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.
42. A Moab a ddifethir o fod yn bobl, am iddi ymfawrygu yn erbyn yr Arglwydd.
43. Ofn, a ffos, a magl a ddaw arnat ti, trigiannol Moab, medd yr Arglwydd.
44. Y neb a ffy rhag yr ofn, a syrth yn y ffos; a'r hwn a gyfyd o'r ffos, a ddelir yn y fagl: canys myfi a ddygaf arni, sef ar Moab, flwyddyn eu hymweliad, medd yr Arglwydd.