Jeremeia 48:33-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o'r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.

34. O floedd Hesbon hyd Eleale, a hyd Jahas, y llefasant, o Soar hyd Horonaim, fel anner deirblwydd: canys dyfroedd Nimrim a fyddant anghyfannedd.

35. Mi a wnaf hefyd ballu ym Moab, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn offrymu mewn uchelfeydd, a'r hwn sydd yn arogldarthu i'w dduwiau.

36. Am hynny y lleisia fy nghalon am Moab fel pibellau, ac am wŷr Cir‐heres y lleisia fy nghalon fel pibellau; oblegid darfod y golud a gasglodd.

37. Oblegid pob pen a fydd moel, a phob barf a dorrir; ar bob llaw y bydd rhwygiadau, ac am y llwynau, sachliain.

38. Ar holl bennau tai Moab, a'i heolydd oll, y bydd alaeth: oblegid myfi a dorraf Moab fel llestr heb hoffter ynddo, medd yr Arglwydd.

39. Hwy a udant, gan ddywedyd, Pa fodd y bwriwyd hi i lawr! pa fodd y trodd Moab ei gwar trwy gywilydd! Felly Moab a fydd yn watwargerdd, ac yn ddychryn i bawb o'i hamgylch.

40. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, efe a eheda fel eryr, ac a leda ei adenydd dros Moab.

Jeremeia 48