22. Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth‐diblathaim,
23. Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth‐gamul, ac ar Beth‐meon.
24. Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.
25. Corn Moab a ysgythrwyd, a'i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.
26. Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.
27. Ac oni bu Israel yn watwargerdd i ti? a gafwyd ef ymysg lladron? canys er pan soniaist amdano, yr ymgynhyrfaist.
28. Trigolion Moab, gadewch y dinasoedd, ac arhoswch yn y graig, a byddwch megis colomen yr hon a nytha yn yr ystlysau ar fin y twll.
29. Nyni a glywsom falchder Moab, (y mae hi yn falch iawn,) ei huchder, ei rhyfyg, a'i hymchwydd, ac uchder ei chalon.
30. Myfi a adwaen ei llid hi, medd yr Arglwydd; ond nid felly y bydd; ei chelwyddau hi ni wnânt felly.
31. Am hynny yr udaf fi dros Moab, ac y gwaeddaf dros holl Moab: fy nghalon a riddfana dros wŷr Cir‐heres.
32. Myfi a wylaf drosot ti, gwinwydden Sibma, ag wylofain Jaser; dy gangau a aethant dros y môr, hyd fôr Jaser y cyrhaeddant: yr anrheithiwr a ruthrodd ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf gwin.
33. A dygir ymaith lawenydd a gorfoledd o'r doldir, ac o wlad Moab, a mi a wnaf i'r gwin ddarfod o'r cafnau: ni sathr neb trwy floddest; eu bloddest ni bydd bloddest.