2. Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i'w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a'th erlid.
3. Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr.
4. Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd.
5. Canys yn rhiw Luhith, galar a â i fyny mewn wylofain, ac yng ngoriwaered Horonaim y gelynion a glywsant waedd dinistr.
6. Ffowch, achubwch eich einioes; a byddwch fel y grug yn yr anialwch.
7. Oherwydd am i ti ymddiried yn dy weithredoedd a'th drysorau dy hun, tithau a ddelir: Cemos hefyd a â allan i gaethiwed, a'i offeiriaid a'i dywysogion ynghyd.
8. A'r anrheithiwr a ddaw i bob dinas, ac ni ddianc un ddinas: eithr derfydd am y dyffryn, a'r gwastad a ddifwynir, megis y dywedodd yr Arglwydd.
9. Rhoddwch adenydd i Moab, fel yr ehedo ac yr elo ymaith; canys ei dinasoedd hi a fyddant anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.
10. Melltigedig fyddo yr hwn a wnelo waith yr Arglwydd yn dwyllodrus, a melltigedig fyddo yr hwn a atalio ei gleddyf oddi wrth waed.
11. Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl.
12. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a'i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau.
13. A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.
14. Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel?
15. Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o'i dinasoedd, a'i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i'r lladdfa, medd y Brenin, a'i enw Arglwydd y lluoedd.
16. Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a'i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest.
17. Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o'i hamgylch; a phawb a'r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a'r wialen hardd!