17. Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o'i hamgylch; a phawb a'r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a'r wialen hardd!
18. O breswylferch Dibon, disgyn o'th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i'th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd.
19. Preswylferch Aroer, saf ar y ffordd, a gwylia; gofyn i'r hwn a fyddo yn ffoi, ac i'r hwn a ddihango, a dywed, Beth a ddarfu?
20. Gwaradwyddwyd Moab, canys hi a ddinistriwyd: udwch, a gwaeddwch; mynegwch yn Arnon anrheithio Moab;
21. A barn a ddaw ar y tir gwastad, ar Holon, ac ar Jahasa, ac ar Meffaath,
22. Ac ar Dibon, ac ar Nebo, ac ar Beth‐diblathaim,
23. Ac ar Ciriathaim, ac ar Beth‐gamul, ac ar Beth‐meon.
24. Ac ar Cerioth, ac ar Bosra, ac ar holl ddinasoedd gwlad Moab, ymhell ac yn agos.
25. Corn Moab a ysgythrwyd, a'i braich hi a dorrwyd, medd yr Arglwydd.
26. Meddwwch hi, oblegid hi a ymfawrygodd yn erbyn yr Arglwydd: ie, Moab a ymdrybaedda yn ei chwydfa; am hynny y bydd hi hefyd yn watwargerdd.