Jeremeia 48:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Moab a fu esmwyth arni er ei hieuenctid, a hi a orffwysodd ar ei gwaddod, ac ni thywalltwyd hi o lestr i lestr, ac nid aeth hi i gaethiwed: am hynny y safodd ei blas arni, ac ni newidiodd ei harogl.

12. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan anfonwyf fudwyr, y rhai a'i mudant hi, ac a wacânt ei llestri hi, ac a ddrylliant eu costrelau.

13. A Moab a gywilyddia oblegid Cemos, fel y cywilyddiodd tŷ Israel oblegid Bethel eu hyder hwynt.

14. Pa fodd y dywedwch chwi, Cedyrn ydym ni, a gwŷr nerthol i ryfel?

15. Moab a anrheithiwyd, ac a aeth i fyny o'i dinasoedd, a'i dewis wŷr ieuainc a ddisgynasant i'r lladdfa, medd y Brenin, a'i enw Arglwydd y lluoedd.

16. Agos yw dinistr Moab i ddyfod, a'i dialedd hi sydd yn brysio yn ffest.

17. Alaethwch drosti hi, y rhai ydych o'i hamgylch; a phawb a'r a edwyn ei henw hi, dywedwch, Pa fodd y torrwyd y ffon gref, a'r wialen hardd!

18. O breswylferch Dibon, disgyn o'th ogoniant, ac eistedd mewn syched; canys anrheithiwr Moab a ddaw i'th erbyn, ac a ddinistria dy amddiffynfeydd.

Jeremeia 48