Jeremeia 48:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, yn erbyn Moab; Gwae Nebo! canys hi a anrheithiwyd: gwaradwyddwyd Ciriathaim, ac enillwyd hi; Misgab a waradwyddwyd, ac a ddychrynwyd.

2. Ni bydd ymffrost Moab mwy: yn Hesbon hwy a ddychmygasant ddrwg i'w herbyn hi: Deuwch, dinistriwn hi i lawr, fel na byddo yn genedl. Tithau, Madmen, a dorrir i lawr, y cleddyf a'th erlid.

3. Llef yn gweiddi a glywir o Horonaim; anrhaith, a dinistr mawr.

4. Moab a ddistrywiwyd; gwnaeth ei rhai bychain glywed gwaedd.

Jeremeia 48