Jeremeia 47:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.

5. Moelni a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda'r rhan arall o'u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di?

6. O cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi? dychwel i'th wain, gorffwys a bydd ddistaw.

7. Pa fodd y llonydda efe, gan i'r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.

Jeremeia 47