Jeremeia 47:1-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa.

2. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, dyfroedd a gyfodant o'r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a'r hyn sydd ynddi; y ddinas, a'r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant.

3. Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo:

4. O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor.

Jeremeia 47