3. Teclwch y darian a'r astalch, a nesewch i ryfel.
4. Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.
5. Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a'u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr Arglwydd.
6. Na chaed y buan ffoi, na'r cadarn ddianc; tua'r gogledd, gerllaw afon Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.
7. Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a'i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?
8. Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a'i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a'r rhai sydd yn trigo ynddi.
9. O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a'r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a'r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.