Jeremeia 46:10-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: a'r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir â'u gwaed hwynt: canys aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.

11. O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagl: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti.

12. Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a'th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthiasant.

13. Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac y trawai wlad yr Aifft.

14. Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd.

15. Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i'r Arglwydd eu gwthio hwynt.

16. Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.

17. Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig.

18. Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd, cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd, a Charmel yn y môr, efe a ddaw.

19. O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd anghyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd.

20. Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o'r gogledd y mae yn dyfod.

21. Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o'i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt.

22. Ei llais hi a â allan fel sarff: canys â llu yr ânt hwy, ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed.

23. Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr Arglwydd, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant na'r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt.

24. Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd.

25. Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf â lliaws No, ac â Pharo, ac â'r Aifft, ac â'i duwiau hi, ac â'i brenhinoedd, sef â Pharo, ac â'r rhai sydd yn ymddiried ynddo;

26. A mi a'u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr Arglwydd.

27. Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a'th gadwaf di o bell, a'th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a'i dychryno.

28. O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr Arglwydd; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y'th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a'th gosbaf di mewn barn, ac ni'th dorraf ymaith yn llwyr.

Jeremeia 46