Jeremeia 44:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hynny y tywalltwyd fy llid a'm digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw.

7. Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a'r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill?

8. Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i'ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear.

9. A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a'ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem?

10. Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o'ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau.

11. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda.

12. A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw: a hwy a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth.

Jeremeia 44