Jeremeia 43:3-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Eithr Baruch mab Nereia a'th anogodd di i'n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i'n lladd, ac i'n caethgludo i Babilon.

4. Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na'r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda:

5. Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda;

Jeremeia 43