Jeremeia 43:12-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a'u llysg hwynt, ac a'u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch.

13. Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.

Jeremeia 43