Jeremeia 42:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia.

8. Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr,

9. Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef;

10. Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a'ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a'ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi.

11. Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyda chwi i'ch achub, ac i'ch gwaredu chwi o'i law ef.

12. A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i'ch gwlad eich hun.

13. Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw,

14. Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni:

15. Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i'r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno,

16. Yna y bydd i'r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a'r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a'ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw.

17. Felly y bydd i'r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i'r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â'r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt.

18. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a'm digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i'r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.

19. O gweddill Jwda, yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i'r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw.

Jeremeia 42