1. Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a'r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant,
2. Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;)
3. Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a'r peth a wnelom.
4. Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a'ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch, myfi a'i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych.
5. A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr Arglwydd fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr Arglwydd dy Dduw gyda thi atom ni.