7. Y llew a ddaeth i fyny o'i loches, a difethwr y Cenhedloedd a gychwynnodd, ac a aeth allan o'i drigle, i wneuthur dy dir yn orwag; a'th ddinasoedd a ddinistrir heb drigiannydd.
8. Am hyn ymwregyswch รข lliain sach; galerwch ac udwch: canys angerdd llid yr Arglwydd ni throes oddi wrthym ni.
9. Ac yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y derfydd am galon y brenin, ac am galon y penaethiaid: yr offeiriaid hefyd a synnant, a'r proffwydi a ryfeddant.
10. Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, yn sicr gan dwyllo ti a dwyllaist y bobl yma a Jerwsalem, gan ddywedyd, Bydd heddwch i chwi; ac eto fe ddaeth y cleddyf hyd at yr enaid.
11. Yn yr amser hwnnw y dywedir wrth y bobl hyn, ac wrth Jerwsalem, Gwynt sych yr uchel leoedd yn y diffeithwch tua merch fy mhobl, nid i nithio, ac nid i buro;