20. Dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd; canys yr holl dir a anrheithiwyd: yn ddisymwth y distrywiwyd fy lluestai i, a'm cortenni yn ddiatreg.
21. Pa hyd y gwelaf faner, ac y clywaf sain yr utgorn?
22. Canys y mae fy mhobl i yn ynfyd heb fy adnabod i; meibion angall ydynt, ac nid deallgar hwynt: y maent yn synhwyrol i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da ni fedrant.
23. Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.
24. Mi a edrychais ar y mynyddoedd, ac wele, yr oeddynt yn crynu; a'r holl fryniau a ymysgydwent.
25. Mi a edrychais, ac wele, nid oedd dyn, a holl adar y nefoedd a giliasent.
26. Mi a edrychais, ac wele y doldir yn anialwch, a'i holl ddinasoedd a ddistrywiasid o flaen yr Arglwydd, gan lidiowgrwydd ei ddicter ef.
27. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Y tir oll fydd diffeithwch: ac eto ni wnaf ddiben.
28. Am hynny y galara y ddaear, ac y tywylla y nefoedd oddi uchod: oherwydd dywedyd ohonof fi, Mi a'i bwriedais, ac ni bydd edifar gennyf, ac ni throaf oddi wrtho.
29. Rhag trwst y gwŷr meirch a'r saethyddion y ffy yr holl ddinas; hwy a ânt i'r drysni, ac a ddringant ar y creigiau: yr holl ddinasoedd a adewir, ac heb neb a drigo ynddynt.
30. A thithau yr anrheithiedig, beth a wnei? Er ymwisgo ohonot ag ysgarlad, er i ti ymdrwsio â thlysau aur, er i ti liwio dy wyneb â lliwiau, yn ofer y'th wnei dy hun yn deg; dy gariadau a'th ddirmygant, ac a geisiant dy einioes.