3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y ddinas hon a roddir yn ddiau yn llaw llu brenin Babilon, yr hwn a'i hennill hi.
4. Yna y tywysogion a ddywedasant wrth y brenin, Rhodder, atolwg, y gŵr hwn i farwolaeth: oblegid fel hyn y mae efe yn gwanhau dwylo'r rhyfelwyr a adawyd yn y ddinas hon, a dwylo'r holl bobl, wrth ddywedyd wrthynt yn ôl y geiriau hyn: oherwydd nid yw y gŵr hwn yn ceisio llwyddiant i'r bobl hyn, ond niwed.
5. A'r brenin Sedeceia a ddywedodd, Wele ef yn eich llaw chwi: canys nid yw y brenin ŵr a ddichon ddim yn eich erbyn chwi.
6. Yna hwy a gymerasant Jeremeia, ac a'i bwriasant ef i ddaeardy Malcheia mab Hammelech, yr hwn oedd yng nghyntedd y carchardy: a hwy a ollyngasant Jeremeia i waered wrth raffau. Ac nid oedd dwfr yn y daeardy, ond tom: felly Jeremeia a lynodd yn y dom.
7. A phan glybu Ebedmelech yr Ethiopiad, un o'r ystafellyddion yr hwn oedd yn nhŷ y brenin, iddynt hwy roddi Jeremeia yn y daeardy, (a'r brenin yn eistedd ym mhorth Benjamin,)
8. Ebedmelech a aeth allan o dŷ y brenin, ac a lefarodd wrth y brenin, gan ddywedyd,
9. O fy arglwydd frenin, drwg y gwnaeth y gwŷr hyn yng nghwbl ag a wnaethant i Jeremeia y proffwyd, yr hwn a fwriasant hwy i'r daeardy; ac efe a fydd farw o newyn yn y fan lle y mae, oherwydd nid oes bara mwyach yn y ddinas.
10. Yna y brenin a orchmynnodd i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Cymer oddi yma ddengwr ar hugain gyda thi, a chyfod Jeremeia y proffwyd o'r daeardy cyn ei farw.
11. Felly Ebedmelech a gymerodd y gwŷr gydag ef, ac a aeth i dŷ y brenin dan y trysordy, ac a gymerodd oddi yno hen garpiau, a hen bwdr fratiau, ac a'u gollyngodd i waered at Jeremeia i'r daeardy wrth raffau.
12. Ac Ebedmelech yr Ethiopiad a ddywedodd wrth Jeremeia, Gosod yn awr yr hen garpiau a'r pwdr fratiau hyn dan dy geseiliau oddi tan y rhaffau. A Jeremeia a wnaeth felly.
13. Felly hwy a dynasant Jeremeia i fyny wrth y rhaffau, ac a'i codasant ef o'r daeardy; a Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.