8. A'r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a'i henillant, ac a'i llosgant â thân.
9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy.
10. Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i'ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
11. A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo,
12. Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl.
13. A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a'i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti.
14. Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a'i dygodd ef at y tywysogion.
15. Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a'i trawsant, ac a'i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16. Pan ddaeth Jeremeia i'r daeardy, ac i'r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer;
17. Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a'i cymerodd ef allan: a'r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon.