Jeremeia 36:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na'r brenin, nac yr un o'i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn.

25. Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant รข'r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt.

26. Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr Arglwydd a'u cuddiodd hwynt.

27. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, (wedi i'r brenin losgi y llyfr, a'r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd,

Jeremeia 36