Jeremeia 35:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ac nad adeiladem i ni dai i'w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had:

10. Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni.

11. Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i'r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.

12. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd,

13. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr Arglwydd.

14. Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i'w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf.

15. Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i'ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf.

Jeremeia 35