Jeremeia 35:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A mi a'u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i Dduw, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws.

5. A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win.

6. Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na'ch plant, yn dragywydd:

7. Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid.

8. A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a'n merched;

Jeremeia 35