Jeremeia 33:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

15. Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir.

16. Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel.

18. Ac ni phalla i'r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

19. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

20. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â'r dydd, a'm cyfamod â'r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser;

21. Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â'r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion.

22. Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a'r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi.

23. Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd,

24. Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a'u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt.

Jeremeia 33