Jeremeia 32:31-38 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Canys i'm digofaint, ac i'm llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb:

32. Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i'm digio i, hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a'u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem.

33. Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau:

34. Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i'w halogi ef.

35. A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i'w meibion a'u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.

36. Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint;

37. Wele, myfi a'u cynullaf hwynt o'r holl diroedd, y rhai yn fy nig a'm llid a'm soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a'u dygaf yn eu hôl i'r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel.

38. A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau.

Jeremeia 32