Jeremeia 32:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, â'th fawr allu ac â'th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti.

18. Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw;

19. Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd;

20. Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw, megis heddiw;

21. Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac â rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr;

22. Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

23. A hwy a ddaethant i mewn, ac a'i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o'r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i'r holl niwed hyn ddigwydd iddynt.

24. Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i'w goresgyn hi; a'r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a'r newyn, a'r haint: a'r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a'i gweli.

Jeremeia 32