9. Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntafâanedig.
10. Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a'i casgl ef, ac a'i ceidw fel bugail ei braidd.
11. Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a'i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.
12. Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a'r gwartheg: a'u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.