23. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr Arglwydd a'th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.
24. Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.
25. Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais.
26. Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.
27. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
28. Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr Arglwydd.
29. Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.
30. Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a'r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31. Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda:
32. Nid fel y cyfamod a wneuthum â'u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i'w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd.