18. Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino รข'r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw.
19. Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.
20. Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr Arglwydd.
21. Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua'r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.