Jeremeia 31:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a'm pobl a ddigonir â'm daioni, medd yr Arglwydd.

15. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt.

16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Atal dy lef rhag wylo, a'th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i'th lafur, medd yr Arglwydd; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.

17. Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr Arglwydd, y dychwel dy blant i'w bro eu hun.

18. Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â'r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw.

19. Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.

20. Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr Arglwydd.

21. Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua'r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i'th ddinasoedd hyn.

22. Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.

23. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr Arglwydd a'th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.

24. Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.

Jeremeia 31