Jeremeia 29:2-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. (Wedi myned Jechoneia y brenin, a'r frenhines, a'r ystafellyddion, tywysogion Jwda a Jerwsalem, a'r seiri a'r gofaint, allan o Jerwsalem;)

3. Yn llaw Elasa mab Saffan, a Gemareia mab Hilceia, y rhai a anfonodd Sedeceia brenin Jwda at Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, gan ddywedyd,

4. Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, wrth yr holl gaethglud, yr hon a berais ei chaethgludo o Jerwsalem i Babilon;

Jeremeia 29