Jeremeia 28:10-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Yna Hananeia y proffwyd a gymerodd y gefyn oddi am wddf Jeremeia y proffwyd, ac a'i torrodd ef.

11. A Hananeia a lefarodd yng ngŵydd yr holl bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y modd hyn y torraf fi iau Nebuchodonosor brenin Babilon o fewn ysbaid dwy flynedd oddi ar war pob cenedl. A Jeremeia y proffwyd a aeth i ffordd.

12. Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, wedi i Hananeia y proffwyd dorri y gefyn oddi am wddf y proffwyd Jeremeia, gan ddywedyd,

13. Dos di, a dywed i Hananeia, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Gefynnau pren a dorraist ti; ond ti a wnei yn eu lle hwynt efynnau o haearn.

14. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Rhoddaf iau o haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, fel y gwasanaethont Nebuchodonosor brenin Babilon, a hwy a'i gwasanaethant ef: mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes iddo ef.

15. Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrth Hananeia y proffwyd, Gwrando yn awr, Hananeia; Ni anfonodd yr Arglwydd mohonot ti; ond yr wyt yn peri i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.

16. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, mi a'th fwriaf di oddi ar wyneb y ddaear: o fewn y flwyddyn hon y byddi farw, oherwydd i ti ddysgu gwrthryfel yn erbyn yr Arglwydd.

17. Felly Hananeia y proffwyd a fu farw y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.

Jeremeia 28