Jeremeia 27:3-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda;

4. A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi;

5. Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a'r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â'm grym mawr, ac â'm braich estynedig, ac a'u rhoddais hwynt i'r neb y gwelais yn dda.

6. Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i'w wasanaethu ef.

7. A'r holl genhedloedd a'i gwasanaethant ef, a'i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef.

8. Ond y genedl a'r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a'r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â'r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â'r genedl honno, medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef.

9. Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon:

10. Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i'ch gyrru chwi ymhell o'ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch.

11. Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a'i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr Arglwydd; a hwy a'i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.

12. Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a'i bobl, fel y byddoch byw.

Jeremeia 27