Jeremeia 26:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A'r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i'r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i'r Aifft:

23. A hwy a gyrchasant Ureia allan o'r Aifft, ac a'i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a'i lladdodd ef â'r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.

24. Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i'w ladd.

Jeremeia 26