Jeremeia 26:17-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd,

18. Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed.

19. A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Arglwydd, ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau.

20. Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd, Ureia mab Semaia, o Ciriath‐jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia.

21. A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a'i holl gedyrn, a'r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i'r Aifft.

22. A'r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i'r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i'r Aifft:

23. A hwy a gyrchasant Ureia allan o'r Aifft, ac a'i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a'i lladdodd ef â'r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin.

24. Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i'w ladd.

Jeremeia 26