11. Yna yr offeiriaid a'r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i'r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â'ch clustiau.
12. Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a'm hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch.
13. Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a'ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i'ch erbyn.
14. Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn.
15. Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a'm lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a'm hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.
16. Yna y tywysogion, a'r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a'r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym.