Jeremeia 25:27-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i'ch plith.

28. Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o'th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch:

29. Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd.

30. Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear.

31. Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'r cenhedloedd: efe a ymddadlau รข phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i'r cleddyf, medd yr Arglwydd.

Jeremeia 25