Jeremeia 24:9-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Ie, rhoddaf hwynt i'w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.

10. A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i'w tadau.

Jeremeia 24