7. Rhoddaf hefyd iddynt galon i'm hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi รข'u holl galon.
8. Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a'r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft:
9. Ie, rhoddaf hwynt i'w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt.
10. A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i'w tadau.