Jeremeia 22:10-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth.

11. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o'r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach.

12. Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.

13. Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ trwy anghyfiawnder, a'i ystafellau trwy gam; gan beri i'w gymydog ei wasanaethu yn rhad, ac heb roddi iddo am ei waith:

14. Yr hwn a ddywed, Mi a adeiladaf i mi dŷ eang, ac ystafellau helaeth; ac a nadd iddo ffenestri, a llofft o gedrwydd, wedi ei lliwio â fermilion.

15. A gei di deyrnasu, am i ti ymgau mewn cedrwydd? oni fwytaodd ac oni yfodd dy dad, ac oni wnaeth efe farn a chyfiawnder, ac yna y bu dda iddo?

16. Efe a farnodd gŵyn y tlawd a'r anghenus; yna y llwyddodd: onid fy adnabod i oedd hyn? medd yr Arglwydd,

17. Er hynny dy lygaid di a'th galon nid ydynt ond ar dy gybydd‐dod, ac ar dywallt gwaed gwirion, ac ar wneuthur trais, a cham.

18. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, Ni alarant amdano, gan ddywedyd, O fy mrawd! neu, O fy chwaer! ni alarant amdano ef, gan ddywedyd, O iôr! neu, O ei ogoniant ef!

19. Â chladdedigaeth asyn y cleddir ef, wedi ei lusgo a'i daflu tu hwnt i byrth Jerwsalem.

20. Dring i Libanus, a gwaedda; cyfod dy lef yn Basan, a bloeddia o'r bylchau: canys dinistriwyd y rhai oll a'th garant.

Jeremeia 22