1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Dos di i waered i dŷ brenin Jwda, a llefara yno y gair hwn;
2. A dywed, Gwrando air yr Arglwydd, frenin Jwda, yr hwn wyt yn eistedd ar frenhinfainc Dafydd, ti, a'th weision, a'th bobl y rhai sydd yn dyfod i mewn trwy y pyrth hyn:
3. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwnewch farn a chyfiawnder, a gwaredwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr: na wnewch gam, ac na threisiwch y dieithr, yr amddifad, na'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn.
4. Canys os gan wneuthur y gwnewch y peth hyn, daw trwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrngadair Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, efe, a'i weision, a'i bobl.
5. Eithr oni wrandewch y geiriau hyn, i mi fy hun y tyngaf, medd yr Arglwydd, y bydd y tŷ hwn yn anghyfannedd.
6. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am dŷ brenin Jwda; Gilead wyt i mi, a phen Libanus: eto yn ddiau mi a'th wnaf yn ddiffeithwch, ac yn ddinasoedd anghyfanheddol.
7. Paratoaf hefyd i'th erbyn anrheithwyr, pob un â'i arfau: a hwy a dorrant dy ddewis gedrwydd, ac a'u bwriant i'r tân.
8. A chenhedloedd lawer a ânt heblaw y ddinas hon, ac a ddywedant bob un wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i'r ddinas fawr hon?
9. Yna yr atebant, Am iddynt ymwrthod â chyfamod yr Arglwydd eu Duw, ac addoli duwiau dieithr, a'u gwasanaethu hwynt.
10. Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wylwch am yr hwn sydd yn myned ymaith: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wêl wlad ei enedigaeth.
11. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd am Salum mab Joseia brenin Jwda, yr hwn a deyrnasodd yn lle Joseia ei dad, yr hwn a aeth allan o'r lle hwn; Ni ddychwel efe yno mwyach.
12. Eithr yn y lle y caethgludasant ef iddo, yno y bydd efe farw; ac ni wêl efe y wlad hon mwyach.