Jeremeia 21:9-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a'i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.

10. Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a'i llysg hi â thân.

11. Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd.

Jeremeia 21