Jeremeia 21:7-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a'u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.

8. Ac wrth y bobl hyn y dywedi, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi ger eich bron ffordd einioes, a ffordd angau.

9. Yr hwn a drigo yn y ddinas hon a leddir gan y cleddyf, a chan y newyn, a chan yr haint; ond y neb a elo allan, ac a gilio at y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch, a fydd byw, a'i einioes fydd yn ysglyfaeth iddo.

10. Canys mi a osodais fy wyneb yn erbyn y ddinas hon, er drwg, ac nid er da, medd yr Arglwydd: yn llaw brenin Babilon y rhoddir hi, ac efe a'i llysg hi â thân.

11. Ac am dŷ brenin Jwda, dywed, Gwrandewch air yr Arglwydd.

12. O dŷ Dafydd, fel hyn y dywed yr Arglwydd; Bernwch uniondeb y bore, ac achubwch y gorthrymedig o law y gorthrymwr, rhag i'm llid dorri allan fel tân, a llosgi fel na allo neb ei ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.

13. Wele fi yn dy erbyn, yr hon wyt yn preswylio y dyffryn, a chraig y gwastadedd, medd yr Arglwydd; y rhai a ddywedwch, Pwy a ddaw i waered i'n herbyn? neu, Pwy a ddaw i'n hanheddau?

Jeremeia 21