Jeremeia 21:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y Gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, pan anfonodd y brenin Sedeceia ato ef Pasur mab Melcheia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, gan ddywedyd,

2. Ymofyn, atolwg, â'r Arglwydd drosom ni, (canys y mae Nebuchodonosor brenin Babilon yn rhyfela yn ein herbyn ni,) i edrych a wna yr Arglwydd â ni yn ôl ei holl ryfeddodau, fel yr elo efe i fyny oddi wrthym ni.

3. Yna y dywedodd Jeremeia wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth Sedeceia;

4. Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn troi yn eu hôl yr arfau rhyfel sydd yn eich dwylo, y rhai yr ydych yn ymladd â hwynt yn erbyn brenin Babilon, ac yn erbyn y Caldeaid, y rhai sydd yn gwarchae arnoch o'r tu allan i'r gaer, a mi a'u casglaf hwynt i ganol y ddinas hon.

5. A mi fy hun a ryfelaf i'ch erbyn â llaw estynedig, ac â braich gref, mewn soriant, a llid, a digofaint mawr.

6. Trawaf hefyd drigolion y ddinas hon, yn ddyn, ac yn anifail: byddant feirw o haint mawr.

7. Ac wedi hynny, medd yr Arglwydd, y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a'i weision, a'r bobl, a'r rhai a weddillir yn y ddinas hon, gan yr haint, gan y cleddyf, a chan y newyn, i law Nebuchodonosor brenin Babilon, ac i law eu gelynion, ac i law y rhai sydd yn ceisio eu heinioes: ac efe a'u tery hwynt â min y cleddyf; ni thosturia wrthynt, ac nid erbyd, ac ni chymer drugaredd.

Jeremeia 21