Jeremeia 20:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan glybu Pasur mab Immer yr offeiriad, yr hwn oedd yn ben‐llywodraethwr yn nhŷ yr Arglwydd, i Jeremeia broffwydo y geiriau hyn;

2. Yna Pasur a drawodd Jeremeia y proffwyd, ac a'i rhoddodd ef yn y carchar oedd yn y porth uchaf i Benjamin, yr hwn oedd wrth dŷ yr Arglwydd.

3. A thrannoeth, Pasur a ddug Jeremeia allan o'r carchar. Yna Jeremeia a ddywedodd wrtho ef, Ni alwodd yr Arglwydd dy enw di Pasur, ond Magor-missabib.

4. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn dy wneuthur di yn ddychryn i ti dy hun, ac i'r rhai oll a'th garant; a hwy a syrthiant ar gleddyf eu gelynion, a'th lygaid di yn gweled: rhoddaf hefyd holl Jwda yn llaw brenin Babilon, ac efe a'u caethgluda hwynt i Babilon, ac a'u lladd hwynt â'r cleddyf.

5. Rhoddaf hefyd holl olud y ddinas hon, a'i holl lafur, a phob dim a'r y sydd werthfawr ganddi, a holl drysorau brenhinoedd Jwda a roddaf fi yn llaw eu gelynion, y rhai a'u hanrheithiant hwynt, ac a'u cymerant, ac a'u dygant i Babilon.

6. A thithau, Pasur, a phawb a'r sydd yn trigo yn dy dŷ, a ewch i gaethiwed; a thi a ddeui i Babilon, ac yno y byddi farw, ac yno y'th gleddir, ti, a'r rhai oll a'th garant, y rhai y proffwydaist iddynt yn gelwyddog.

7. O Arglwydd, ti a'm hudaist, a mi a hudwyd: cryfach oeddit na mi, a gorchfygaist: yr ydwyf yn watwargerdd ar hyd y dydd, pob un sydd yn fy ngwatwar.

Jeremeia 20