Jeremeia 2:5-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer?

6. Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a'n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a'n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?

7. Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra.

8. Yr offeiriaid ni ddywedasant, Pa le y mae yr Arglwydd? a'r rhai sydd yn trin y gyfraith nid adnabuant fi: y bugeiliaid hefyd a droseddasant i'm herbyn, a'r proffwydi a broffwydasant yn enw Baal, ac a aethant ar ôl y pethau ni wnaent lesâd.

9. Oblegid hyn, mi a ddadleuaf â chwi eto, medd yr Arglwydd; ie, dadleuaf â meibion eich meibion chwi.

10. Canys ewch dros ynysoedd Chittim, ac edrychwch; a danfonwch i Cedar, ac ystyriwch yn ddiwyd, ac edrychwch a fu y cyfryw beth.

11. A newidiodd un genedl eu duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau? eithr fy mhobl i a newidiodd eu gogoniant am yr hyn ni wna lesâd.

12. O chwi nefoedd, synnwch wrth hyn, ac ofnwch yn aruthrol, a byddwch anghyfannedd iawn, medd yr Arglwydd.

13. Canys dau ddrwg a wnaeth fy mhobl; hwy a'm gadawsant i, ffynnon y dyfroedd byw, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, ie, pydewau wedi eu torri, ni ddaliant ddwfr.

14. Ai gwas ydyw Israel? ai gwas a anwyd yn tŷ yw efe? paham yr ysbeiliwyd ef?

15. Y llewod ieuainc a ruasant arno, ac a leisiasant; a'i dir ef a osodasant yn anrhaith, a'i ddinasoedd a losgwyd heb drigiannydd.

Jeremeia 2