Jeremeia 2:33-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Paham yr wyt ti yn cyweirio dy ffordd i geisio cariad? am hynny hefyd y dysgaist dy ffyrdd i rai drygionus.

34. Hefyd yn dy odre di y cafwyd gwaed eneidiau y tlodion diniwed; nid wrth chwilio y cefais hyn, eithr ar y rhai hyn oll.

35. Eto ti a ddywedi, Am fy mod yn ddiniwed, yn ddiau y try ei lid ef oddi wrthyf. Wele, dadleuaf รข thi, am ddywedyd ohonot, Ni phechais.

36. Paham y gwibi di gymaint i newidio dy ffordd? canys ti a waradwyddir oherwydd yr Aifft, fel y'th waradwyddwyd oherwydd Asyria.

37. Hefyd ti a ddeui allan oddi wrtho, a'th ddwylo ar dy ben: oblegid yr Arglwydd a wrthododd dy hyder di, ac ni lwyddi ynddynt.

Jeremeia 2