Jeremeia 2:30-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Yn ofer y trewais eich plant chwi, ni dderbyniasant gerydd: eich cleddyf eich hun a ddifaodd eich proffwydi, megis llew yn distrywio.

31. O genhedlaeth, gwelwch air yr Arglwydd: A fûm i yn anialwch i Israel? yn dir tywyllwch? paham y dywed fy mhobl, Arglwyddi ydym ni, ni ddeuwn ni mwy atat ti?

32. A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a'm hanghofiasant ddyddiau aneirif.

Jeremeia 2