19. Dy ddrygioni dy hun a'th gosba di, a'th wrthdro a'th gerydda: gwybydd dithau a gwêl, mai drwg a chwerw ydyw gwrthod ohonot yr Arglwydd dy Dduw, ac nad ydyw fy ofn i ynot ti, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
20. Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
21. Eto myfi a'th blanaswn yn bêr winwydden, o'r iawn had oll: pa fodd gan hynny y'th drowyd i mi yn blanhigyn afrywiog gwinwydden ddieithr?
22. Canys pe byddai i ti ymolchi â nitr, a chymryd i ti lawer o sebon; eto nodwyd dy anwiredd ger fy mron i, medd yr Arglwydd Dduw.
23. Pa fodd y dywedi, Ni halogwyd fi, ac nid euthum ar ôl Baalim? Edrych dy ffordd yn y glyn, gwybydd beth a wnaethost; camel buan ydwyt yn amgylchu ei ffyrdd.
24. Asen wyllt wedi ei chynefino â'r anialwch, wrth ddymuniad ei chalon yn yfed gwynt, wrth ei hachlysur pwy a'i try ymaith? pawb a'r a'i ceisiant hi, nid ymflinant; yn ei mis y cânt hi.
25. Cadw dy droed rhag noethni, a'th geg rhag syched. Tithau a ddywedaist, Nid oes obaith. Nac oes: canys cerais ddieithriaid, ac ar eu hôl hwynt yr af fi.