1. A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd,
2. Cerdda, a llefa yng nghlustiau Jerwsalem, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd. Cofiais di, caredigrwydd dy ieuenctid, a serch dy ddyweddi, pan y'm canlynaist yn y diffeithwch, mewn tir ni heuwyd.
3. Israel ydoedd sancteiddrwydd i'r Arglwydd, a blaenffrwyth ei gnwd ef: pawb oll a'r a'i bwytao, a bechant; drwg a ddigwydd iddynt, medd yr Arglwydd.
4. Gwrandewch air yr Arglwydd, tŷ Jacob, a holl deuluoedd tŷ Israel.
5. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pa anwiredd a gafodd eich tadau chwi ynof fi, gan iddynt ymbellhau oddi wrthyf, a rhodio ar ôl oferedd, a myned yn ofer?
6. Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr Arglwydd a'n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a'n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?
7. Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a'i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd‐dra.